P-04-521 Rheoleiddio Safleoedd Carafannau

 

Geiriad y ddeiseb:

Rydym yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i annog Llywodraeth Cymru i ymchwilio i weld a yw deddfwriaeth yn ymwneud â diogelwch meysydd carafannau gwyliau a phreswyl yng Nghymru yn ddigonol ac / neu a ydynt wedi’u rheoli’n briodol. Os nad ydynt, rydym yn annog Llywodraeth Cymru i gymryd y camau priodol. Rydym yn pryderu’n arbennig am y peryglon a ganlyn i ddiogelwch:

1. Y bwlch rhwng carafannau;
2. Storio nwy potel; a
3. Gosod carafannau a strwythurau llosgadwy eraill yn y lle gwag tair medr o led o fewn terfynau safleoedd.

Mae’r holl enghreifftiau hyn yn nodi risgiau i ddiogelwch y mae’n ymddangos nad ydynt yn cael eu rheoli’n ddigonol ar hyn o bryd.

 

Prif ddeisebydd: Brian Silvester

 

Ysytyriwyd am y tro cyntaf gan y Pwyllgor: 10 Rhagfyr 2013

 

Nifer y llofnodion:37